Chris Vernon
Cyfarwyddwr
Mae wedi gweithio’n flaenorol fel gwyddonydd hinsawdd gyda’r Swyddfa Dywydd, mae’n beiriannydd siartredig, yn aelod o’r Sefydliad Ffiseg ac mae ganddo Ph.D. mewn rhewlifeg gan ganolbwyntio ar len iâ yr Ynys Las. Mae gan Chris hefyd raddau meistr mewn ffiseg gyfrifiadol a gwyddor system y Ddaear, ac astudiodd systemau ynni a gwneud penderfyniadau amgylcheddol gyda'r Brifysgol Agored. Mae bellach yn byw gyda'i bartner a dau o blant yng Ngorllewin Sir Gaerfyrddin ar Ddatblygiad Un Blaned mewn tŷ di-garbon hunan-adeiladu oddi ar y grid. Mae ganddyn nhw berllan dwy erw, maen nhw'n cadw gwenyn, ieir, tyrcwn, gwyddau a hwyaid. Mae hefyd yn aelod o fwrdd ymddiriedolwyr y Ganolfan Ynni Cynaliadwy a’r Cyngor Un Blaned, sefydliad gwirfoddol sy’n cefnogi ac yn hyrwyddo’r polisi Datblygu Un Blaned.